Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl:  Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn ailddeddfu Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 ("Gorchymyn 2005") o ganlyniad i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 sy'n darparu bod Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("CyngACC") i barhau i fodoli, ond ei fod i gael ei ailenwi yn Gyngor y Gweithlu Addysg.

 

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diddymu Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000.  Rhoddodd y Gorchymyn hwnnw swyddogaethau ychwanegol i CyngACC mewn perthynas â chynnal cofnodion mewn cysylltiad â phersonau sydd wedi eu cofrestru gydag ef.  Bydd y ddarpariaeth mewn perthynas â chynnal cofnodion o'r fath gan y Cyngor bellach yn cael ei chynnwys yn Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, a byddant yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.

 

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Craffu ar y Rhinweddau

 

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.   Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Rhoddodd y Gorchymyn hwnnw swyddogaethau ychwanegol i CyngACC mewn perthynas â chynnal cofnodion mewn cysylltiad â phersonau sydd wedi eu cofrestru gydag ef. Bydd y ddarpariaeth mewn perthynas â chynnal cofnodion o'r fath gan y Cyngor bellach yn cael ei chynnwys yn Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015,  ("Rheoliadau 2015"). Rhagwelir y daw Rheoliadau 2015 i rym ar 1 Ebrill 2015. Fodd bynnag, ni ellir gwarantu hyn. Os daw'r Gorchymyn hwn i rym cyn Rheoliadau 2015 yna ni fyddai'r dyletswyddau sydd gan y Cyngor mewn perthynas â chynnal cofnodion yn gymwys nes bod y Rheoliadau newydd yn dod i rym. Yr ydym eisoes wedi cael copi o Reoliadau drafft 2015 i'w gwirio ac mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y daw'r Gorchymyn a Rheoliadau 2015 i rym ar yr un diwrnod.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Ionawr 2015

 

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 2015

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt o ran y rhagoriaethau ac yn derbyn y pwynt a wneir.  Mae Llywodraeth Cymru yn rhag-weld y bydd Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 yn cael eu gwneud yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Ionawr 2015 ac y byddant wedyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.  Felly, yn ymarferol, nid yw Llywodraeth Cymru yn rhag-weld y bydd yr anhawster posibl a nodir yn yr adroddiad yn codi.